Tredegar House TŶ TREDEGAR

EXTRA FOR 2024: FREE ENTRY TO MAGNIFICENT TREDEGAR HOUSE AND GARDENS (WORTH UP TO £11PP) IS INCLUDED WITH EVERY FESTIVAL TICKET YCHWANEGOL AR GYFER 2024: MYNEDIAD AM DDIM I DŶ TREDEGAR A’I GERDDI GODIDOG (WERTH HYD AT £11bp) GYDA PHOB TOCYN I’R ŴYL

We’re delighted to announce that, new for 2023, EVERY ticket holder will have FREE entry to National Trust gem Tredegar House and its glorious gardens. Entry would normally cost non-NT members up to £11, but as long as you’re wearing a festival wristband or can show an e-ticket or print-out, entry is free. Individual concert or ceilidh ticket holders get free House & Gardens entry on the day the festival ticket is valid. Weekend festival ticket holders can visit any time during opening hours over the weekend (Fri-Sun inclusive). Just buy any festival ticket (full weekend, single concert or ceilidh) through the TICKETS page of this website and exchange it for a wristband at our on-site festival office. We hope we’ve covered any queries you might have on our FAQs page.

Rydyn ni’n falch iawn y bydd PAWB sy’n prynu tocyn i‘r ŵyl eleni yn cael mynediad AM DDIM i berl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Tŷ Tredegar a’i gerddi godidog. Byddai hyn yn costio £11 i‘r rhai heb aelodaeth, ond os ydych chi’n gwisgo breichled am yr ŵyl – neu’n cario tocyn electronig neu ar bapur – fe gewch chi fynediad am ddim. Os prynwch chi docyn i gyngerdd neu dwmpath unigol fe gewch chi fynediad ar y diwrnod priodol. Mae tocyn penwythnos yn rhoi hawl mynediad yn ystod oriau agor dros y penwythnos (Gwener-Sul). Prynwch docynnau drwy’r dudalen TOCYNNAU ar y wefan a’i gyfnewid am freichled yn ein swyddfa ar y safle. Fe gewch chi atebion i unrhyw gwestiynau ar ein tudalen CWESTIYNAU CYFFREDIN.

Tredegar House

Tredegar House is a treasure trove of delights and you can find all the info you’d ever want on their website by clicking on the picture below. The mansion house itself is home to centuries of history and magnificent artefacts from the magnificent Gilt Room to the downstairs servants’ hall. Meanwhile the three formal gardens (the Orchard, the Cedar and the Orangery) each have their own distinctive characters and secret paths, along with the ‘Priest’s House’ and an orchard full of apple trees.

Mae Tŷ Tredegar yn drysorlys hen greiriau ac fe gewch chi weld rhagor amdano trwy glicio ar y llun isod. Mae’r plas ei hun yn record canrifoedd o’n hanes ac yn llawn eitemau rhyfeddol drwyddi draw. Mae ganddi dair gerdd ffurfiol (y Berllan, yr Ardd Gedrwydd a’r Orendy), pob un yn wahanol gyda’i llwybrau dirgel ei hun, yn ogystal â “Thŷ’r Offeiriad” a pherllan llawn o goed afal.

Tredegar House

And, of course, at the heart of Tredegar House’s home farm is the Brewhouse café, the perfect place to rest and refuel after exploring the vast grounds. Originally the home of the Morgan family’s horses, the building became the Morgans’ brewery. The House now use it as a café, but a taste of its history is still visible today. Throughout the year, Tredegar House hosts a range of special events such as concerts, exhibitions and family fun days. We’re pretty sure you’ll want to come back for more, especially if you live relatively locally. And while our wristbands allow free access for just the festival weekend, you might want to consider joining the National Trust which gives you free entry to Tredegar House and many other awe-inspiring properties. Click on the oak leaf below for more details.

Ac wrth gwrs, yn ganolog i ffermdy Tŷ Tredegar mae caffi’r bragdy, y lle delfrydol i ymlacio ac atgyfnerthu ar ôl crwydro’r parcdiroed helaeth. Cartref i geffylau’r teulu Morgan yn wreiddiol, daeth yr adeilad yn fragdy’r Morganiaid. Mae’n gaffi bellach, ond mae’r olion hanesyddol yn weladwy hyd heddiw. Drwy’r flwyddyn, cynhelir digwyddiadiau arbennig megis cyngerddau, arddangosfeydd a diwrnodau i‘r teulu yn y tŷ. Fyddwch chi’n siwr o ddychwelyd, yn arbennig os ydych chi’n byw’n lleol. Ac er y cewch chi fynediad am ddim yn ystod yr ŵyl, efallai y byddwch chi’n ystyried ymuno â’r Ymmdiriedolaeth Genedlaethol, a mwynhau mynediad i Dŷ Tredegar a sawl eiddo mawreddog arall. Cliciwch y ddeilen derw isod i ddysgu rhagor.

Oak