Dance DAWNS
EXTRA FOR 2024: FREE ENTRY TO MAGNIFICENT TREDEGAR HOUSE AND GARDENS (WORTH UP TO £11PP) IS INCLUDED WITH EVERY FESTIVAL TICKET YCHWANEGOL AR GYFER 2024: MYNEDIAD AM DDIM I DŶ TREDEGAR A’I GERDDI GODIDOG (WERTH HYD AT £11bp) GYDA PHOB TOCYN I’R ŴYL
THESE ARE SOME OF THE GROUPS INVITED FOR 2024 DYMA RAI O'R GRWPIAU A WAHODDWYD AR GYFER 2024
SPEELSCHAAR OSSAART SPEELSCHAAR OSSAART
INDIA DANCE WALES DAWNS INDIA CYMRU
RALDA RALDA
JAWAHIR DANCE GROUP GRŴP DAWNS JAWAHIR
THIS is Jawahir’s 19th year performing at this festival. They are a local group of women who combine the best of folk traditions with modern influences from around the world. They have been inspired by styles from Egypt, Turkey, North Africa, the Balkans, Armenia and more. Jawahir are known at the festival for their colourful costumes, dramatic headdresses and upbeat music. Most dances are choreographed by Jawahir members except for a few which are traditional folk dances. They love their beautiful skirts, headdresses, dancing with swords, tambourines, veils and sticks and take great joy in getting the audience up and dancing at the end of their set. They are available for fun workshops, festivals, fetes etc. If you fancy joining their weekly classes, come and have a chat.
Hon fydd yr 20fed flwyddyn i Jawahir berfformio yn yr ŵyl. Rydyn ni’n grŵp o fenywod lleol sy’n cyfuno’r gorau o draddodiadau gwerin a dylanwadau cyfoes o bob cwr o’r byd ac wedi ein hysbrydoli gan arddulliau o’r Aifft, Twrci, Gogledd Affrica, gwledydd Balcan, Armenia ac eraill. Bydd selogion yr ŵyl yn gyfarwydd â’n gwisgoedd lliwgar, penwisgoedd trawiadol a cherddoriaeth sy’n codi’r galon. Heblaw am ambell i ddawns draddodiadol, trefnir mwyafrif ein dawnsiau gan y grŵp ein hunain. Rydyn ni wrth ein boddau gyda’n sgertiau hyfryd, penwisgoedd trawiadol a dawnsio gyda chleddyfau, tambourines, llenni a ffyn ac yn ymhyfrydu mewn ysgogi’r gynulleidfa i godi ar eu traed a chyd-ddawnsio ar ddiwed ein set. Ymunwch â ni: mae’n debyg y byddwch chi’n mwynhau! Rydyn ni ar gael am weithdai hwylus, gwyliau ac ati. Pe hoffech chi ymuno â ni yn ein sesiynau ymarfer wythnosol, dewch am sgwrs.
COBBLERS AWL COBBLERS AWL
NOW firmly based in Cardiff, though drawing membership from as far afield as Bridgend, Merthyr Tydfil and the Vale of Glamorgan, Cobblers Awl have kept both Welsh and English clog-step traditions alive for over 45 years since the group first convened in Cwmbrân. Their repertoire includes routines from Lancashire, Lakeland and the North-east of England, as well as Welsh stepping, embedding traditional elements within a contemporary polyrhythmic framework. They wear wooden-soled leather clogs, handmade by the few craftsmen still creating such traditional footwear, and members practise every Monday night in The Community Space at Tesco (Gabalfa) on Western Avenue in Cardiff.
Daw Cobblers Awl o Gaerdydd, gydag aelodau o Ben-y-bont, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg. Maen nhw wedi cadw’n fyw traddodiadau clocsio Cymnru a Lloegr am dros 45 mlynedd ers eu sefydlu yng Nghwmbrân. Maen nhw’n cynnwys dawnsiau o Swydd Gaerhirfryn, Ardal y Llynoedd a Gogledd-Ddwyrain Lloegr a dros y degawd diwethaf maen nhw wedi datblygu dawnsiau Cymreig, gan addasu elfennau traddodiadol i fframwaith aml-rhythmig cyfoes. Maen nhw’n gwisgo clocsiau lledr gyda gwadnau pren, wedi’u crefftio gan yr ychydig grefftwr sy’n dal i weithio yn y maes. Mae Cobblers Awl yn ymarfer yn y Stafell Gymunedol yn Tesco, Gebeulfa, Caerdydd ar nosweithiau Llun. Eto, gofynnwch i‘r dawnswyr am fanylion.
CWMNI GWERIN PONT-Y-PWL CWMNI GWERIN PONT-Y-PŴL
AS the name suggests, this is a dedicated team aiming to keep alive the great culture and tradition of Welsh folk music and dance. They perform at displays and festivals across Wales and the UK and throughout Europe where they have links with other traditional dance groups. Cwmni Gwerin Pont-y-Pŵl are a small and friendly group always looking for new musicians and dancers, whether experienced or inexperienced. They meet in St John’s Ambulance Hall, Hospital Road, Pontnewynydd, Pontypool NP4 8LR every Tuesday at 7.45pm and would welcome anyone interested. Please feel free to ask the dancers for details, call 01633 868707 or email cwmnigwerinpontypool@gmail.com
Fel mae’r enw yn awgrymu, dyma dîm sy’n cadw’n fyw diwylliant a thraddodiadau cerdd a dawns Cymreig. Maen nhw’n perfformio ar draws Cymru, Prydain ac Ewrop ble mae ganddyn nhw gysylltiadau gyda sawl grŵp dawns arall. Mae Cwmni Gwerin Pont-y-pŵl yn grŵp bach cyfeillgar sy’n agored iawn i groesawu aelodau newydd, boed yn ddawnswyr neu gerddorion, profiadol neu ddi-brofiad. Maen nhw’n cwrdd yn Neuadd Ambiwlans Sant Ioan, Heol yr Ysbysty, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl NP4 8LR (what3words.com/singles.horses.ownership) bob nos Fawrth am 7:45yh. Gofynnwch i‘r dawnswyr am ragor o fanylion neu ffonio 01633 868707 neu ebostio cwmnigwerinpontypool@gmail.com
GWERINWYR GWENT GWERINWYR GWENT
A GROUP formed in 1976 by eight people from the Gwent area keen to revive the tradition of Welsh folk dancing, Gwerinwyr Gwent are now at the heart of the art form in South Wales. Their performances, ranging from slow, courtly dances to the faster fair and clog dances, have graced eisteddfodau and festivals here and overseas. Foreign tours have included Denmark, Finland and Latvia. Members also host overseas dancers invited to Tredegar House Festival. New members are welcome at practice nights each Thursday 8-10pm at the Graig Community Hall, Bassaleg, NP10 8LG. Call 01495 271953 for more details.
Ffurfiwyd y grŵp hwn ym 1976 gan wyth person o ardal Gwent oedd yn awyddus i atgyfodi traddodiadau dawns werin Cymru. Maen nhw bellach yn ganolog i’r grefft yn Ne Cymru, yn perfformio pob math o ddawnsiau - o’r rhai araf (llys) i ddawnsiau ffair sy’n gyflymach a chlocsio ac wedi cystadlu mewn eisteddfodau a gwyliau yma a thramor. Ymysg eu teithiau tramor maen nhw wedi ymweld â Denmark, Finland a Latvia. Mae’r aelodau hefyd yn croesawu dawnswyr o dramor sy’n ymweld â Gŵyl Werin Tŷ Tredegar. Croesewir aelodau newydd ar nosweithiau Iau rhwng 8 a 10 yn Neuadd Gymunedol Bassaleg NP10 8LG. Ffoniwch 01495 271953 am famylion pellach.
FLAMENCO FLAMENCO
FLAMENCO is an Andalusian term which refers both to a musical style, known for its intricate rapid passages, and a dance genre characterised by its audible footwork and fluid hand and arm movements, often accentuated by castanets. The three expressions of classical flamenco are the toque (guitar), cante (the song) and baile (the dance). Sit back and thrill to this Flamenco performance from a team which has appeared regularly at the Festival. Pay special attention, too, to the colours and volumes of material in their traditional dress as they swirl and sway around the dance floor.
Mae Flamenco yn cyfeirio at arddull o ddawns a cherddoriaeth o Andalusia. Mae’r dawnsio yn cynnwys stepio clywadwy a chyflym a symudiadau llyfn y dwylo a breichiau, yn aml wedi’u cyfeilio gan y castanets. Mae 3 mynegiad o Flamenco: toque (gitâr); cante (y gân) a baile (y ddawns). Eisteddwch yn ôl a mwynhewch berfformiad y tîm hwn sy’n gefnogwyr selog yr ŵyl. Sylwch, hefyd ar y lliwiau a maint y defnydd yn eu gwisgoedd traddodiadol wrth iddynt chwyrlio o gwmpas y llawr.
ISCA MORRIS MORUS ISCA
ISCA MORRIS were formed in 1976 by three experienced dancers taking their name from the Roman fortress of the Second Augustan Legion which once stood on the site of the town of Caerleon. In common with a number of other Welsh Morris sides they wear the red, white and green of Wales but include a red sash emblazoned with a Roman helmet. Their dancing season usually extends from May 1 (when they dance at dawn in the glorious Roman amphitheatre at Caerleon) to about mid-September, every Wednesday evening, at a variety of real ale pubs across Newport, Torfaen and Monmouthshire.
Sefydlwyd Morus Isca ym 1976 gan dri dawnsiwr profiadol a daw’r enw o gaer Rufeinig Ail Leng yr Ymerawdwr Augustus a safai yn nhref Caerllion. Fel timoedd Morus eraill o Gymru, maen nhw’n gwisgo lliwiau coch, gwyn a gwyrdd Cymru ond maen nhw hefyd yn cynnwys gwregys croes â llun helmed Rufeinig arno. Maen nhw fel arfer yn dechrau eu tymor dawns ar doriad gwawr ar 1af o Fai yn yr amffitheatr ysblennydd yng Ngaerllion ac yn para tan ganol mis Medi, pob nos Fercher mewn tafarndai (sy’n gwerthu cwrw go iawn) ar draws Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy.
SHOOSTRING SHOOSTRING
TIGER FEET TIGER FEET
AN Appalachian dance side from Cardiff who have been performing for more than 20 years.They dance mainly to traditional tunes but also love more modern works and are grateful to Bellowhead and other groups for their inspiring music. Appalachian dance was created when generations of European settlers took their traditional dance steps and music with them to the New World, where they blended both with African rhythms and with the dance steps of native Americans. The art form is sometimes called American clogging, though it is often danced in tap or flat leather-soled shoes.
Tîm dawns Appalachiaidd o Gaerdydd sydd wedi bod wrthi ers dros ugain mlynedd. Maen nhw’n dawnsio i gerddoriaeth draddodiadol yn bennaf ond yn hoff iawn o weithiau mwy cyfoes ac maen nhw’n ddiolchgar i grwpiau fel Bellowhead a grwpiau tebyg am eu cerddoriaeth ysbrydoledig. Crëwyd dawnsio Appalachiaidd gan ymfudwyr o Ewrop, a gyfunodd eu stepio a cherddoriaeth gyda thraddodiadau Affricanaid a’r Americaniaid cynhenid. Cyfeirir ato weithiau fel clocsio Americanaidd, ond mae’n cael ei berfformio hefyd mewn sgidiau isel gwadnau lledr neu sgidiau tap.
TOPAZ TRIBAL TOPAZ TRIBAL
AL RAKAS AL RAKAS
MENDIP MORRIS MORUS MENDIP
Founded in 1956, originally as the male-only Mendip Morris Men, the side embraced equality in 2019 when they amended their constitution to welcome women into membership and shortened their name to Mendip Morris. They can be identified by their red, gold and blue baldrics (crossed sashes), adorned with the King Alfred’s jewel at the back and the Somerset dragon at the front. Black breeches, bell pads and brightly decorated straw hats complete the outfit. Mendip Morris are sometimes accompanied by the Fool (who wears a smock, odd coloured socks and a very fetching black top hat), a spotted horse (called, er…Horse) and the Green Man.
Sefydlwyd ym 1956 fel tîm o ddynion yn unig - Dynion Morus Mendip – ond diwygiwyd eu cyfansoddiad yn 2019 i groesawu menywod a newidwyd eu henw i Morus Mendip. Maen nhw’n gwisgo gwregysau croes (baldrics) coch, aur a glas, wedi’u addurno gyda gem y Brenin Alffred ar y cefn a draig Gwlad yr Haf ar y blaen. Gweddill eu gwisg yw llodrau du, padiau clychau a hetiau gwellt lliwgar. Mae Morus Mendip yn perfformio weithiau gyda Ffŵl sy’n gwisgo smoc, sanau o wahanol liwiau a het du uchel yn ogystal â cheffyl smotiog a’r Dyn Gwyrdd.
RAISE THE DUST RAISE THE DUST
SWEYN’S EY MORRIS MORUS SWEYN'S EY
The side, founded in Llanmadoc in 1966 and originally known as the Mighty Men of Madoc, moved to Swansea in 1968 and are now the Sweyn’s Ey Morris and Sword Dancers. In summer they dance outdoors, giving displays at some of the many pubs from the Swansea Valey to the Gower Peninsula. They also perform at festivals, weddings and fetes. Winter is practice time, except for Christmas when they present the Gower Mummers play and Crwmpyn John, a play from the Swansea Valley.
Sefydlwyd y tîm hwn yn Llanmadoc yn 1966 dan yr enw “Mighty Men of Madoc” yn wreiddiol, Symudant i Abertawe ym 1968 ac fe’u adwaenir fel “Morus Sweyn’s Ey a Dawnswyr Cleddyf” bellach. Drwy’r haf maen nhw’n perfformio yn yr awyr agored tu allan i dafarndai o Gwm Tawe i Benrhyn Gŵyr. Maen nhw’n perfformio, hefyd mewn gwyliau a phriodasau. Y gaeaf yw’r amser i ymarfer – heblaw am y Nadolig, pryd maen nhw’n perfformio Crwmpyn John (drama o Gwm Tawe) a dramau mudchawarae.
DAWNSWYR WERIN PEN Y FAI DAWNSWYR WERIN PEN Y FAI
This is a team with a worldwide reputation. Each dance in their repertoire has its place snd tradition in Wales with styles varying from energetic fair dances and lively social dances to elegant court dances, all accompanied by a band of skilled folk musicians. Performers wear traditional Welsh flannel costume. On formal occasions the women wear the distinctive tall black hats.
Dyma dîm sydd wedi hen ennill eu plwyf dros y byd. Mae gan bob dawns yn eu catalog ei lle yn nhraddodiad Cymru gyda’u harddull yn amrywio o ddawnsiau ffair egnïol a dawnsiau cymdeithasol bywiog i’r rhai llys gosgeiddig, pob un i gyfeiliant cerddorion medrus. Mae’r perrfformwyr yn gwisgo brethyn Cymreig ac ar achlysuron ffurfiol mae’r menywod yn gwisgo hetiau du uchel traddodiadol.